![]() |
![]() |
TEITL |
Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU |
DYDDIAD |
3 Mehefin 2024 |
GAN |
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet |
Ddydd Mercher 22 Mai 2024, cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y byddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf. Cynhaliwyd 'cyfnod cau pen y mwdwl' am ddeuddydd wedi hyn cyn addoedi Senedd y DU ddydd Gwener 24 Mai. Yna, diddymwyd Senedd y DU ddydd Iau 30 Mai.
Roedd y Biliau canlynol gan Senedd y DU yn destun y broses cydsyniad deddfwriaethol yn Senedd Cymru cyn diddymu Senedd y DU—
· Y Bil Cyfiawnder Troseddol
· Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
· Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio)
· Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
· Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad
· Y Bil Rhentwyr (Diwygio)
· Y Bil Tybaco a Fêps
· Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Cafodd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2024. Methodd yr holl Filiau eraill a restrir uchod yn dilyn diddymu Senedd y DU.
Maes o law, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu rhagor o wybodaeth â Senedd Cymru ynglŷn â'r goblygiadau i Gymru yn sgil y Biliau hynny a gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn ystod y cyfnod cau pen y mwdwl.